Tystebau
“Gan fy mod i wedi bod yn gobeithio ffeindio olion o fy nhad yn Nhrevelin roedd y daith yn llwyddiant mawr. Fe basiodd Aled o Deithiau Tango manylion am yr amser a dreuliodd fy nhad yn y Wladfa i gynrychiolwyr Teithiau Tango yn y Wladfa ac fe ofynnon nhw i Arturo Loundes i wneud ychydig o ymchwil. Rydw i mor ddiolchgar iddynt am y wybodaeth eu bod wedi ffeindio allan ac am drefnu imi ymweld ag Ivy Hammond, sy’n cofio fy rhieni. Fe ffeindiais gymaint mwy nag oeddwn i’n disgwyl ac roeddwn i wrth fy modd gyda’r holl daith. Fe roddodd y daith hon gyfle imi i ddilyn llwybr y gwladychwyr cyntaf ac i weld lle arferai byw. Hyfryd oedd gweld y cefn gwlad drawiadol a chael naws am y tir. I mi roedd hi’n daith gyffrous iawn - ac yn un emosiynol hefyd."- Hazel Davies, 2010
“Taith ragorol, fe wnes i fwynhau mas draw. Roedd yr Orsedd yn yr Eisteddfod yn eithaf emosiynol. Cafodd popeth ei drefnu’n dda trwy gydol y daith. Roedd y gwestai o safon uchel a’r tywyswyr yn ardderchog. Gofalwyd amdanom yn dda. Roedd y brofiad cyfan yn ardderchog ac fe wnaeth imi deimlo’n falch iawn o fod yn Gymro.” - Philip Rees, 2010
“Ni fyddai’n bosib i’r daith i Batagonia i fod wedi’i threfnu’n well. Roedd ein tywyswyr lleol wedi dod a Phatagonia i fywyd i mi.” – Sharon Rees, 2010
