Tango Tours

Traddodiadau'r Wladfa

Mae'r Ariannin wedi ymfalchio yn y ffaith mai hi ydy'r mwyaf Ewropaidd o holl wledydd De Amerig ac byddwch yn cael eich synnu gan y gymysgedd gyfoethog o draddodiadau brodorol y wlad a thraddodiadu mwy Ewropaidd: gauchos sydd yn siarad Cymraeg, merched Cymreig iawn eu golwg yn yfed mate a chystadleuaeth tango yn yr Eisteddfod! Gan bod yr Ariannin yn wlad mor anferth mae gwahaniaethau rhwng traddodiadau'r gogledd a'r de ond dyma rai o'r arferion mwyaf amlwg y gwelwch ar eich taith trwy eangderau Patagonia:

 

Mate - mae mate yn ddiod wedi'i wneud o ddail planhigyn sydd yn perthyn i'r celyn. Mae'n gallu cael ei yfed yn chwerw neu gyda llawer o siwgr ac mae'n cymryd amser i arfer â'r blas. Dim byd fel paned adre mae hynny'n sicr! Mae'r cebador (yr un sydd yn rhannu y mate) yn rhoi d?r poeth ond dim berwedig ar y dail sydd yn cael eu rhoi yn y cwpan sydd hefyd o'r enw mate. Gowrd yw'r gwpan ac mae rhai yn cael eu hardduno gydag arian neu yn cael eu cerfio neu eu peintio (cofroddion da!). Mae'r hylif yn cael ei sugno trwy gwellten hir efo hidl ar y gwaelod , y bombilla : yn draddodiadol o famb?, nawr mae llawer yn cael eu gwneud o arian neu fetel arall. Does dim caffein yn y diod ond mae matein sydd yn cael effeithio ar y corff (helpu traul y bwyd, tawelu'r galon) ond heb sgîl-effeithiau cas coffi. Ond efallai yn fwy pwysig na'r diod yw'r ddefod: mae'r cebador yn pasio'r mate gyda'i law dde ac yn null y cloc ac rhaid i'r derbyniwr sugno'r diod a gwagio'r cwpan heb gyffwrdd yn y bombilla!

 

Asado - hunllef llysieuwyr neu farbeciw gorau y byd! Cig wedi ei goginio dros dân coed, cig eidion neu gig oen, ac os ydych chi yn ddigon lwcus i gael gwahoddiad i fferm byddwch chi'n bwyta y cig mwyaf ffres ac organig rydych chi erioed wedi trio!

 

Te Cymraeg - erbyn hyn gydag oriau gweithio ac arferion teuluol nid yw te yn bryd o fwyd pwysig yng Nghymru ond ar achlysur pen-blwydd efallai ond mae llond bysus o Archentwyr yn heidio i' r Gaiman (yn y Dyffryn) ac i dref Trevelin (yn yr Andes) er mwyn blasu y te Galés. Bara cartref, sgons cartref, jam cartref, efallai ychydig o gaws, wedyn teisennau amrywiol fel teisen hufen, teisen siocled, tarten ffrwythau a'r torta negra - fel teisen ffrwythau ni - wedi'u golchi lawr gyda thebotiaid ar ôl tebotiaid o de! Peidiwch â meddwl bwyta te ac asado yr un diwrnod!

 

Yr Eisteddfod - wedi hen arfer ag eistedd mewn Eisteddfod adre efallai y bydd seremoni agoriadol Eisteddfod del Chubut yn dipyn o sioc! Dawnswyr tango yn chwyrlio o gwmpas y llwyfan i fiwsig sydd yn mynd â ni i strydoedd Buenos Aires? Neu ddawns werin Cymreig gyda grwp yn chwarae offerynnau yr Ariannin? Bydd digon o amrywioldeb!

 

Gauchos - fersiwn yr Ariannin o'r cowboi yng Ngogledd Amerig. Rydych chi'n siwr o weld nhw ar eu ceffylau ar ochr y ffordd pan rydych chi yn yr Andes neu yn croesi'r paith. Yn hanesyddol yn crwydro i chwilio am waith, meistri ar drin ceffylau - a chyllyll! - ac yn cynrychioli ochr rydd y gymdeithas; nid oedd y tirfeistri na'r deallusion yn rhy hoff ohonynt yn eu gweld fel peryg ac erbyn heddiw mae eu niferoedd yn mynd yn llai ac yn llai oherwydd newidiadau yn ffordd o fyw y wlad.