Tango Tours

Tirlun a Natur

Mae tirlun Patagonia yn un sydd yn dwyn y dychymyg ac sydd wedi ysbrydoli awduron a dyddiadurwyr er diwrnodau cyntaf y gwladfawyr cynt. Mae'n gynfas eang o olau a lliwiau bythnewidiol sydd yn rhedeg o'r arfodir danheddog at y mynyddoedd miniog. Teithiwch ymlaen o gyfeiriad yr arfordir tuag at yr Andes a theimlwch y newid yn hyd yn oed yr awyr yr ydych chi'n ei hanadlu. Mae'r arfordir yn gymysgedd blêr o glogwynau llethrog a thwyni tywodlyd sydd yn llithro i fewn i'r môr gloyw. Mae morfilod 'Southern Right' (wedi'u henwi oherwydd bod nhw'n addas ar gyfer eu lladd am y cynhyrchion sydd yn bosib eu cymryd ohonyn nhw) yn dod i'r Bae Newydd, ger Porth Madryn bob blwyddyn i fod yn y dyfroedd llai dwfn er mwyn cenhedlu a geni eu lloi sydd yr un maint â bws. Mae eliffantod y môr yn snwffian ac yn ymladd ac yn paru wrth ochr y mor-loiod a phengwiniaid tawelach ond gwyliwch am yr Orcas, y morfilod ffyrnig sydd yn bwydo ar yr ifainc diofal. Mae helaethrwydd yr adar yn syfrdanol ac os welwch chi'r Skua anferth yn ei ehediad dros gytref y pengwynod gewch chi fod yn sicr ei fod yn chwilio am fwyd parod!

 

Wrth i ni adael yr arfordir a theithio i'r gorllewin ac o gyfeiriad y môr efallai meddyliwch chi fod dim gan yr anialwch llwyd gyda'i dwyni pigog i gynnig ond edrychwch yn fwy gofalus: efallai gwelwch chi'r ñandu aderyn brodorol i Batagonia sydd yn debyg i'r estrys, y mara math o ysgyfarnog brodorol neu hyd yn oed teulu o guanaco sydd yn perthyn i deulu y llama yn croesi'r ffordd o'ch blaen.

 

Yn Dyffryn yr Allorau (Los Altares yn Sbaeneg) rydyn ni'n pasio drwy ffurfiannau hudol cerrig sydd weid cael eu torri gan y rhewlifoedd yn gyntaf ac wedyn gan yr Afon Camwy a'r tywydd yn gadael tyrrau pendrwm sydd yn debyg i allorau eglwysi. Pasiwch yng ngolau'r bore ac mae'r lliwiau yn tywynnu o goch i oren o wyrdd a gwyn sydd yn llewyrchu'n gynnes yng ngolau'r machlud.

 

Yn dringo o hyd, pan rydyn ni'n cael cip o'r Andes am y tro cyntaf efallai y byddan nhw'n ein croesawu gyda'r copâu miniog wedi'u lapio mewn eira cynnar yn loyw yn erbyn awyr asur. Dyma gynefin y condor, aderyn mwyaf y byd, y huemul swil, carw brodorol, ac adar ac anifeiliaid di-rif. Yn nyfroedd tryloyw llynnoedd Parc Genedlaethol Los Alerces mae cyfoeth o bysgod a mae anghenion dyn a natur ochr yn ochr mewn heddwch.