Taith Sgïo'r Wladfa
A oeddech chi'n gwybod mai Patagonia ydy un o lefydd gorau'r byd ar gyfer sgïo? Gyda'n taith newydd ym mis Awst 2012, fe allwch ddilyn taith yr hen wladychwyr Gymraeg o arfordir yr Iwerydd, ar hyd tirwedd syfrdanol y paith hyd at Esquel a Threvelin - sydd wedi'u lleoli wrth droed mynyddoedd yr Andes.
Ar y ffordd, byddwch yn cwrdd â chymunedau Cymraeg Trelew a Gaiman, ac yn cael siawns i weld sut mae'r Cymry Archentwyr yn byw eu bywydau dros baned mewn un o dai tê enwog y Wladfa. Byddwch hefyd yn cael siawns i weld bywyd gwyllt anhygoel Peninsula Valdés, lle ceir morloi anferth yn nofio'n agos i'r traeth, yn ogystal ag eliffantod y môr a phengwiniaid.
Yna, byddwch yn gwneud y siwrne bythgofiadwy ar hyd y paith, gan stopio ar hyd y ffordd mewn mannau o ddiddordeb Gymraeg. Nid yn unig yw'r paith yn llawn golygfeydd anhygoel o greigiau sy'n sefyll fel cewri ar draws y dirwedd, mae hefyd wedi'i wau i mewn i hanes y Wladfa, gan mai dyma lle teithiodd criw o wladychwyr Cymraeg ym 1885 i chwilio am fwy o dir i wladychu. Mae'r stori wedi'i wneud yn enwog gan lyfr yr actor Matthew Rhys, sydd hefyd wedi actio gyda Duffy mewn ffilm "Patagonia" a ddaeth allan eleni.
Ar ôl ichi groesi'r paith byddwch yn cyrraedd ardal Esquel a Threvelin. Tref bach ydy Trevelin, ond un sy'n enwog am ei olygfeydd pert o'r mynyddoedd, a'r nifer o adar - gan gynnwys condoriaid - sy'n byw yn yr ardal. Mae Esquel yn fwy o faint, ac mae mynyddoedd mawrion yn esgyn dros y ddinas. Yma byddwch yn ymweld ag Ysgol Gymraeg yr Andes ac yn cwrdd a'r genhedlaeth newydd o Gymry Archentaidd, yn ogystal ag oedolion y gymuned mewn asado wedi'i drefnu'n arbennig i'ch grŵp.
Wedi ichi fwynhau dinas Esquel, byddwch wedyn yn symud ymlaen i'r mynyddoedd o gwmpas y ddinas, gydag ychydig o ddyddiau yn mwynhau llethrau anhygoel yr ardal hon. Mae llethrau Patagonia yn ddelfrydol ar gyfer bob math o sgïo, ac yn addas i bob oedran a gallu. Mae'r cyfleusterau'n fodern, gyda lifftiau i'ch cludo i fyny'r llethrau ac mae modd hefyd llogi cyfarpar sgïo. Dyma'r ffordd orau o orffen unrhyw daith i Batagonia mae'n siŵr!
Os oes gennych ddiddordeb yn ein taith sgïo, cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth a manylion am sut gallwch ddiogelu lle ar y daith.
