Tango Tours

Taith Eisteddfod a Phen-blwydd Trevelin 2012

 

A oes diddordeb gennych i ymuno â Thaith Pen-blwydd Trevelin ym mis Tachwedd 2012?  Am fanylion pellach, gan gynnwys pris, teithlen lawn a.y.y.b llenwch y ffurflen isod, gan ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Gan fod gymaint o bobl wedi dangos diddordeb mewn Taith Eisteddfod y Wladfa eleni, ‘rydym wedi penderfynu rhedeg taith arall ym mis Tachwedd a fydd yn cyd-daro â dathliadau pen-blwydd sefydliad Trevelin.  Mae’r dathliadau hyn yn adeg wych i ddod i adnabod trigolion y dref, ac yn 2012 mae yna fonws, gan bod Eisteddfod Trevelin wedi cael ei symud i gyd-daro gyda'r dathliadau.

Bydd y daith yn dechrau wrth yr arfordir ger Puerto Madryn lle byddwch yn gweld golygfeydd y ddinas boblogaidd hon yn ogystal ag ymweld â Phenrhyn Valdés i weld y bywyd gwyllt anhygoel sydd yn yr ardal, gan gynnwys morfilod a phengwiniaid, ymysg eraill.  Yna, byddwch yn ymweld â Gaiman a Threlew, cyn dechrau’r siwrne bythgofiadwy ar draws y paith hyd at Esquel a Threvelin sydd wrth droed mynyddoedd yr Andes.  Gan fod tymhorau’r Ariannin yn gyferbyniol i’n tymhorau ni yng Nghymru, byddwch yn ymweld â’r Wladfa yn y gwanwyn hwyr, ac felly bydd y tywydd yn bleserus iawn.


Yn ogystal â’r pethau sydd i’w gweld a gwneud yn y Wladfa, fe fydd yna siawns i gymdeithasu gyda’r Cymry Archentaidd mewn digwyddiadau cymdeithasol fydd wedi’u trefnu yn arbennig iddoch chi.

Gan fod yna sel gwartheg fawr ymlaen ar yr un adeg â’r dathliadau, fe fydd yna siawns i weld hwn– byddwn hefyd yn cynnwys ambell ymweliad â ranch Archentaidd, gyda chyfleoedd i ddysgu am y fathau o anifeiliaid sy’n cael eu ffermio yn y Wladfa.  Gan fod yna wedi bod galw mawr am opsiwn o wneud gweithgareddau amaethyddol ar ein teithiau, fe fydd yna hefyd ymweliadau ag ardaloedd eraill o ddiddordeb amaethyddol yn cael eu trefnu i’r rheini sydd â diddordeb.  I’r rheini nad sydd â gymaint o ddiddordeb mewn byd amaethyddiaeth, byddwn yn gallu trefnu gwibdeithiau eraill, megis ymweliad â pharc cenedlaethol.  Mae yna ystod eang iawn o bethau y gellid eu gwneud yn y Wladfa!


A oes teulu neu ffrindiau gennych ym Mhatagonia?  Rhowch wybod i ni ymlaen llaw ac fe allwn drefnu ichi gwrdd – mae hyn yn gallu fod yn brofiad emosiynol iawn ac yn gallu gwneud eich taith i’r Wladfa hyd yn oed yn fwy bythgofiadwy!

 

 

Uchafbwyntiau'r daith:

Taith 18 diwrnod

  • Buenos Aires
  • Y Dyffryn (Gaiman, Trelew a Phorth Madryn)
  • Cwm Hyfryd (Esquel a Threvelin)
  • Peninsula Valdes
  • Croesi'r paith


Beth sy'n gynwysedig?


  •     Hediadau rhyngwladol a mewnol
  •     Trafnidiaeth fewnol
  •     Llety
  •     Gwibdeithiau / teithiau dinas
  •     Llawer o brydiau bwyd (manylion o fewn y deithlen lawn)
  •     Tywyswyr
  •     Digwyddiadau cymdeithasol gyda'r gymuned Gymreig

 

 

Tystebau ar gyfer taith 2010:


 “Gan fy mod i wedi bod yn gobeithio ffeindio olion o fy nhad yn Nhrevelin roedd y daith yn lwyddiant mawr.  Fe basiodd Aled o Teithiau Tango manylion am yr amser a dreuliodd fy nhad yn y Wladfa i'n tywyswyr ymlaen llaw ac fe wnaethant ychydig o ymchwil.  Rydw i mor ddiolchgar iddynt am y wybodaeth eu bod wedi ffeindio allan ac am drefnu imi ymweld ag Ivy Hammond, sy’n cofio fy rhieni.  Fe ffeindiais gymaint mwy nag oeddwn i’n disgwyl ac roeddwn i wrth fy modd gyda’r holl daith. Fe roddodd y daith hon gyfle imi i ddilyn llwybr y gwladychwyr cyntaf ac i weld lle arferai byw. Hyfryd oedd gweld y cefn gwlad drawiadol a chael naws am y tir.  I mi roedd hi’n daith gyffrous iawn - ac yn un emosiynol hefyd.” - Hazel Davies, Taith Eisteddfod Menter Bro Ogwr 2010


“Ni fyddai’n bosib i’r daith i Batagonia i fod wedi’i threfnu’n well.  Roedd ein tywyswyr wedi dod a Phatagonia i fywyd i mi.”Sharon Rees


A oes gennych unrhyw gwestiynau?  A hoffech gael teithlen fanylach i ddarllen?  Anfonwch eich manylion atom gyda'r ffurflen isod i gofrestru eich diddordeb ar gyfer taith eleni!

 


Eich enw / Your name*
Eich e-bost / Your e-mail*
Eich rhif ffôn / Your phone number*
Eich Cyfeiriad / Your Address
Nifer o deithwyr / Number of travellers*
Unrhyw gwestiwn? / Any questions?*