Tango Tours

Taith Eisteddfod y Wladfa 2012

Yn anffodus mae'r daith yma nawr yn llawn. Gwelwch ein taith am fid Tachwedd sy nawr yn cyfuno Eisteddfod Trevelin gyda dathliadau Pen-blwydd Trevelin.

 

A oes diddordeb gennych i ymuno â ni ar ein taith i Eisteddfod y Wladfa yn Nhrelew ym Mis Hydref 2012? Am fanylion pellach, gan gynnwys pris, teithlen lawn a.y.y.b llenwch y ffurflen isod, gan fynegi unrhyw gwestiynau sydd gennych oes diddordeb gennych i ymuno â ni ar ein taith i Eisteddfod y Wladfa yn Nhrelew ym Mis Hydref 2012? Am fanylion pellach, gan gynnwys pris, teithlen lawn a.y.y.b llenwch y ffurflen isod, gan fynegi unrhyw gwestiynau sydd gennych.

 

Mae Eisteddfod y Wladfa yn ddigwyddiad blynyddol sy’n denu cystadleuwyr o bob cornel y Wladfa, ac hyd yn oed o weddill yr Ariannin!  Yn ogystal â threulio amser yn gwylio’r Eisteddfod, fe fydd yna nifer o ymweliadau â llefydd o ddiddordeb ar hyd y Wladfa, gan gynnwys ymweliadau ag ysgolion Gymraeg yr ardal a thai te adnabyddus.  Yn bwysicach fyth, fe fydd yna siawns i gymdeithasu gyda’r Cymry Archentaidd mewn digwyddiadau cymdeithasol fydd wedi’u trefnu yn arbennig iddoch chi, megis prydiau o fwyd neu gymanfaoedd ganu.


A oes teulu neu ffrindiau gennych ym Mhatagonia?  Rhowch wybod i ni ymlaen llaw ac fe allwn drefnu ichi gwrdd – mae hyn yn gallu fod yn brofiad emosiynol iawn ac yn gallu gwneud eich taith i’r Wladfa hyd yn oed yn fwy bythgofiadwy!

 

Uchafbwyntiau'r daith:

Taith 16 diwrnod

  •     3 Diwrnod yn Buenos Aires
  •     5 Diwrnod yn y Dyffryn (Gaiman, Trelew a Phorth Madryn)
  •     5 Diwrnod yng Nghwm Hyfryd (Esquel a Threvelin)
  •     1 Diwrnod yn croesi'r paith!


Beth sy'n gynwysedig?


  •     Hediadau rhyngwladol a mewnol
  •     Trafnidiaeth fewnol
  •     Gwestai 4 neu 3 Seren
  •     Gwibdeithiau / teithiau dinas
  •     Llawer o brydiau bwyd (manylion o fewn y deithlen lawn)
  •     Tywyswyr
  •     Digwyddiadau cymdeithasol gyda'r gymuned Gymreig

 

Tystebau ar ein taith i Eisteddfod y Wladfa yn 2010:

 

“Taith ragorol, fe wnes i fwynhau mas draw.  Roedd yr Orsedd yn yr Eisteddfod yn eithaf emosiynol.  Cafodd popeth ei drefnu’n dda trwy gydol y daith.  Roedd y gwestai o safon uchel a’r tywyswyr yn ardderchog.  Gofalwyd amdanom yn dda.  Roedd y brofiad cyfan yn ardderchog ac fe wnaeth imi deimlo’n falch iawn o fod yn Gymro.” - Philip Rees, Taith Eisteddfod Menter Bro Ogwr 2010


“Gan fy mod i wedi bod yn gobeithio ffeindio olion o fy nhad yn Nhrevelin roedd y daith yn lwyddiant mawr.  Fe basiodd Aled o Teithiau Tango manylion am yr amser a dreuliodd fy nhad yn y Wladfa i'n tywyswyr ymlaen llaw ac fe wnaethant ychydig o ymchwil.  Rydw i mor ddiolchgar iddynt am y wybodaeth eu bod wedi ffeindio allan ac am drefnu imi ymweld ag Ivy Hammond, sy’n cofio fy rhieni.  Fe ffeindiais gymaint mwy nag oeddwn i’n disgwyl ac roeddwn i wrth fy modd gyda’r holl daith. Fe roddodd y daith hon gyfle imi i ddilyn llwybr y gwladychwyr cyntaf ac i weld lle arferai byw. Hyfryd oedd gweld y cefn gwlad drawiadol a chael naws am y tir.  I mi roedd hi’n daith gyffrous iawn - ac yn un emosiynol hefyd.” - Hazel Davies, Taith Eisteddfod Menter Bro Ogwr 2010


“Ni fyddai’n bosib i’r daith i Batagonia i fod wedi’i threfnu’n well.  Roedd ein tywyswyr wedi dod a Phatagonia i fywyd i mi.”Sharon Rees


Eich enw / Your name*
Eich e-bost / Your e-mail*
Eich rhif ffôn / Your phone number*
Eich Cyfeiriad / Your Address
Nifer o deithwyr / Number of travellers*
Unrhyw gwestiwn? / Any questions?*