Tango Tours

Pobl y Wladfa

Michael D. Jones  (1822 – 1898) 'Tad y Wladfa' -  yn gyfrifol am ledaenu'r syniad dros Gymru a gweithio i wireddu'r freuddwyd o Wladfa Gymraeg.

 

Edwin Cynrig Roberts  (1838 – 1893) Un o arweinwyr y Mudiad Gwladfaol yn yr Unol Daleithiau ac un o'r cyntaf i ymfudo i Batagonia.

 

Capten Love-Jones Parry (1832 – 1891) Cymeriad cryf yn natblygiad y mudiad gwladychol a noddwr pwysig o'r fentr.

 

Lewis Jones (1836 – 1904) Ffigwr hanfodol yn y Mudiad Gwladfaol, bu'n allweddol wrth baratoi a chynnal y Wladfa.

 

Abraham Matthews (1832 – 1899) Gweinidog cyntaf y Wladfa ac awdur Hanes y Wladfa Gymreig.

 

John Daniel Evans (1862 – 1943) Yn cael ei adnabod fel El Baqueano yn Sbaeneg un o'r arloeswyr a ddaeth o gyd i dir ffrwythlon yng nghysgod yr Andes, sefydlodd y felin a roddodd yr enw i dref Trevelin.

 

Jorge Luis Fontana (1846 – 1920) Archentwr oedd yn gyfrifol am arwain yy ymgyrch gyntaf dros y Paith o Ddyffryn Camwy i'r Andes yng nghwmni y Rifleros del Chubut.

 

Eluned Morgan (1870 – 1938) Merch i Lewis Jones, awdur Gwymon y Môr a Dringo'r Andes, athrawes, golygydd y papur newydd Y Drafod, sefydlodd ysgol ganolraddol y Gaiman.

 

R.Bryn Williams (1902 – 1981) awdur a bardd a symudodd i Drelew gyda'i deulu yn 6 oed, bron popeth o'i waith yn adlewyrchu byd Patagonia, mae llawer o Gymry yn adnabod Patagonia trwy'i lyfrau a'i storïau.