Tango Tours

Newyddion

Eisteddfod Genedlaethol 2011

Eisteddfod Genedlaethol 2011 oedd yr Eisteddfod gyntaf i Teithiau Tango arddangos ynddi, ac roedd un peth yn glir o'r dechrau - fod gan y Cymry ddiddordeb anniwall yn y Wladfa.  Braf oedd cael clywed straeon rheini oedd eisoes wedi bod, ac roedd yna nifer fawr wedi eistedd i lawr gyda ni am baned ac i ddysgu am ein holl wahanol deithiau.

 

Teithiau Tango Stall - Eisteddfod Genedlaethol 2011Roedd hi'n syndod faint o bobl oedd â pherthnasau neu ffrindiau yn y Wladfa, ac i lawer eu breuddwyd ydy mynd allan i gwrdd â nhw, neu mewn rhai achosion i ddod o hyd iddynt er mwyn gallu cadw mewn cyswllt.  Byddwn wrthi yn y misoedd nesaf yn gwneud ymholiadau ar gyfer rhai pobl a fydd yn teithio gyda ni gyda'r nod o gwrdd â pherthynas neu ffrind teuluol yno.

 

Roedd y teithiau gwahanol yn apelio at ddiddordebau gwahanol - roedd nifer fawr o bobl yn awyddus i weld dathliadau unigryw Gŵyl y Glaniad ym Mhorth Madryn ac ar y traethau lle glaniodd y Cymry, ac eraill yn ymddiddori mewn Taith Pen-blwydd Trevelin a'i holl ymweliadau â ranshis yng Nghwm Hyfryd.  Er bod unrhyw sôn am sgïo wedi codi arswyd ar rai, roedd Taith Sgïo'r Wladfa yn boblogaidd tu hwnt gyda'r rheini sy'n edrych am ychydig o antur ar eu gwyliau!


Wrth i'n hamser yn yr Eisteddfod ddod i ben, roedd yna amser inni redeg i lawr i'r brif lwyfan i ddal perfformiad ffantastig Dafydd Iwan o Yma o Hyd cyn inni bacio'r stondin i ffwrdd!

 

Menter Patagonia 2011

Dyn ni yn falch iawn i gyhoeddi bod Teithiau Tango yn noddi hediadau cynrychiolwyr Menter Patagonia i'r Wladfa eleni.  Ar yr 8fed o Fawrth, bydd Lois Dafydd ac Iwan Madog yn dechrau'r siwrne hir o Gymru i Batagonia, lle byddan nhw'n gwario 10 mis yn gwirfoddoli i Fenter Patagonia yn dysgu Cymraeg ac yn cynnal gweithgareddau a fydd yn hybu'r iaith yn y Wladfa.  Am fwy o wybodaeth am Fenter Patagonia cliciwch yma.