Tango Tours

Buenos Aires

Mwy na jyst man stopio ar eich taith i rannau eraill o'r wlad, mae Buenos Aires yn unigryw ymhlith prifddinasoedd gwledydd De Amerig:  mae'n llawn o'r lliw a'r bywyd y byddai rhywun yn disgwyl gan ddinas Lladin-americanaidd ond ar yr un pryd mae'i gwreiddiau Ewropiadd i'w gweld ar bob cornel. Mae ei phensaerniaeth Ffrengig ac Eidalaidd yn glir wrth i chi edrych ar rhai o adeiliadau mwyaf pwysig y dref, yn amlwg yn arwyddion gwreididol y Subte (trên tanddaearol y ddinas) ac mae ddiwylliant y caffe yn nodeweddiadol o ddinasoedd mawr Ewrop.


Gyda mwy na 3 miliwn o drigolion yn y ddinas ei hun (Capital Federal) a 13 miliwn arall yn y dalaith o'i chwmpas (Gran Buenos Aires) mae digon o fynd a dod ym mhob rhan o'r ddinas ond mae'r prif  atyniadau twristaidd mewn ardal cymharol fach.  Un o'r ffyrdd gorau i gael blas ar y ddinas os ydych chi'n brin o amser ydy cymryd taith bws o amglych y ddinas:  fyddwch chi ddim yn cael llawer o amser i fwynhau pob atyniad ond byddwch chi'n cael cip-olwg o'r strydoedd a'r barrios (cymdogaethau) er mwyn cael blas ar rhythm y lle - ac i ystyried lle byddech chi'n hoffi adnabod yn well ar eich ymweliad nesaf.  Os oes gennych chi gwpl o ddyddiau i dreulio yma cyn mynd adref mae'n werth crwydro'r strydoedd llydan cyn stopio mewn caffe er mwyn gwylio'r Porteños (enw am y bobol sy'n byw yn y ddinas) cyn pasio awr neu ddwy mewn un o'r amgeuddfeydd neu orielau neu siopau sydd ar bron bob stryd.


Canol y ddinas


Dyma ardal mwyaf hanesyddol y ddinas gyda sawl adeilad a cornel yn cael eu portreadu ar y cardiau post ac yn y tywyslyfrau tramor.  Un o'r ardaloedd mwyaf prysur yn llawn gweithwyr a thacsis a phobl yn cerdded ac yn gwthio heibio yn ogystal ag un sydd yn llawn o bensaerniaeth o wahanol cyfnodau gyda dylanwad gwahanol gwledydd.


Prif atyniadau:

Plaza de Mayo - canolbwynt digwyddiadau arwyddocaol yn hanes y wlad - a gwrthdystiadau gwleidyddol -  ers 1580 hyd heddiw.


Casa Rosada - i'r rhai sydd wedi gweld y ffilm yn enwog am y balconi lle ymddangosodd Evita yn y ffilm ym 1996, t?'r Llwyodraeth


Cabildo - canolbwynt Chwyldro 1810, yr unig adeilad mewn arddul Sbaenaidd sydd ar ôl yn y Plaza


Eglwys Gadeiriol Buenos Aires - adeiliad ac adnewyddiwyd ers 1822 cartref i weddillion San Martin Gwaredwr yr Ariannin (ac ambell i wlad arall yn Ne Amerig hefyd)


Avenida de Mayo - stryd llawn adeiladau mewn arddull Ewropiadd, cartref i Cafe Tortoni un o gaffes hanesyddol y ddinas


Puerto Madero - ychydig o sgwariau o'r Casa Rosada ardal yr hen borthladd, rwan yn llawn o adeiladau modern, fflatiau mwyaf drud De Amerig i gyd, tai bwyta chwaethus.


Palacio del Congreso - 6 sgwâr i ochr arall Avenida 9 de julio (stryd mwyaf llydan y byd - mae ei chroesi yn her!) Senedd-d? yr Ariannin, adeilad sydd yn adlweyrchu rhai o nodweddion Senedd-d? enwog arall


Yr Obelisco - fel mae'r enw yn awgrymu obelisg a adeiladwyd ym 1936 er mwyn dathlu pedair canmlwyddiant sefydlu'r ddinas, 67.5 metr o uchder, eicon o'r ddinas.


Teatro Colon - agorwyd ym 1908 gyda pherffomiad o Aida gan Verdi, trysor o adeilad ac un o'r 5 tai opera mwayf enwog yn y byd.  Mae'r mawrion i gyd wedi perffomio yma ac yn ôl Pavarotti dim ond un nam sydd - mae'r acwstig mor berffaith mae'n bosib clywed bob camgymeriad!


Siopau - byddwch chi'n ffeindio anrheg i bawb a rhybweth i chi yn yr ardal hon o'r dref.  Florida ydy enw'r stryd di-draffig sydd yn gymysgedd o siopau pethau lledr a chofroddion, mae Galerias Pacificas yn ganolfan siopa llawn o'r siopau mwyaf trendi a chain