Gweddill yr Ariannin

Peidiwch â meddwl ein bod ni'n cynnig teithiau Cymreig eu naws yn unig! Mae llawer mwy i Batagonia na'r hanes yn unig ac mae'r gymdeithas gyfoes yn cynnig llawer o gyfleoedd beth bynnag eich diddordebau. Os ydych chi'n chwilio am antur eithafol neu ddyddiau o grwydro hamddenol gadewch i ni eich lywio gyda chyngor ar pryd i ymweld, lle ac am ba mor hir i aros, pwy dylech chi adnabod a sut i symud o un lle i'r llall.

 

 

Os ydych chi'n hoff o fywyd tu allan yn mwynhau'r awyr iach byddwch yn dwlu ar ehangderau Patagonia a'i mynyddoedd a llynnoedd: mae 2.2 person am bob kilometr sgwâr i'w gymharu â 246 o bobl i bob kilometr ym Mhrydain! Os ydych chi eisiau archwilio'r ardaloedd rydyn ni'n gallu eich tywys mewn ceir 4x4 neu rydyn ni'n gallu eich cyfeirio i ffyrdd mwy traddodiadol o weld y wlad fel defnydido eich traed neu deithio ar gefn ceffyl! I'r rhai sydd yn mwynhau adrenalin mae'n bosib rafftio yn rhai o ddyfroedd enwoca'r byd neu fynd ar daith mewn cwch i weld rhelif yn y gorllewin neu ar y môr i weld morfil wyneb yn wyneb. Ydych chi'n mwynhau pysgota? Dewch i ni eich arwain hyd yr afonydd gloyw, y nentydd crisial at y llynnoedd gwyrddlas i brofi diwrnodau o bysgota sydd ymysg y gorau yn y byd.

 

 

Er ein bod yn gwirioni rhannu ein profiadau o Batagonia gyda chi rydyn ni hefyd wedi teithio i rannau eraill o'r Ariannin a rydyn ni'n gallu creu y pecyn perffaith os ydych chi am weld rhai o ogoneddau gweddill y wlad. Beth am ymweld â rhaeadrau anferthol Iguazú neu weld prydferthwch anhygoel rhewlif Perito Moreno? Neu beth am rhyfeddu ar hyfrydwch ardal y llynnoedd o amgylch dinas Bariloche? Neu sut fyddech chi'n hoffi teithio i bwynt mwyaf deheuol y cyfandir a'r pwynt nesaf at Antarctica ar Wlad y Tân, Tierra del Fuego yn Sbaeneg? A chofiwch bod Brasil ac atyniadau yr haul, y môr a'r carnbifal ond un naid mewn awyren.

 

 

Yn ôl llyfr teithio y 'Lonely Planet' dewiswyd Yr Ariannin fel ei phrif gyrchfan twristiaeth yn y byd - a rydyn ni'n gwybod pam! Yn ogystal â'r amrywiaeth rhyfeddol o brydferthwch naturiol, mae'r wlad yn sefydlog yn wleidyddol ac yn economaidd ond yn dal yn llawn o liwiau a bywyd gwlad De Americanaidd. Mae ei phobl yn gyfeillgar a chroesawgar, ei strydoedd yn ddiogel a'i phrisiau ymysg y rhai isaf yn y byd.