Dyddiadau Pwysig
Gwyliau cyhoeddus yn yr Ariannin
Mae o leiaf un diwrnod gwyl bob mis, rhai yn grefyddol ac eraill yn wleidyddol. Mae bron bob dim banc a siop tu allan i'r dinasoedd mawr yn cau ar y gwyliau cenedlaethol hyn ac mae'n gyfle i'r teulu ddod at ei gilydd.
Ionawr 1 – Año Nuevo - Blwyddyn Newydd
Ebrill 2 – Día de las Malvinas - Diwrnod Cyn-filwyr y Malfinas i gofio am yr anghydfod ym 1982
Mai 1 – Día de los Trabajadores - Diwrnod y Gweithwyr
Mai 25 – Día de la Patria - Diwrnod Brodoroldeb – dathlu chwyldro 1810
Mehefin 20 – Día de la Bandera - Diwrnod y Faner – cofio diwrnod marwolaeth General Belgrano, creadur y faner genedlaethol
Gorffennaf 9 – Día de la Independencia - Diwrnod Annibynniaeth yn dathlu annibynniaeth o afael Sbaen
Awst 17 - Día de San Martin Diwrnod San Martin – cofio marwolaeth Cadfridog San Martin, gwaredwr De America
Medi 21 – Dia de la primavera Diwrnod y Gwanwyn
Hydref 12 – Día de la Raza Diwrnod i gofio darganfyddiaeth Columbus o'r Amerig
Tachwedd 10 – Día de la Tradición Diwrnod Traddodiad
Rhagfyr 25 – La navidad - Diwrnod Nadolig
Las Pascuas – Pasg neu Semana Santa – Yr Wythnos Sanctaidd yn gallu newid dyddiad o flwyddyn i flwyddyn.
Mawrth 1 - Dydd Gwyl Dewi lle mae Cymry dros y byd yn cofio eu nawddsant Dewi a bu farw ar y dyddiad hwn ym 589. Yn cael ei ddathlu mewn canolfannau amrywiol dros y Wladfa.
Ebrill 30 – Dathlu'r plebiscito ym 1902, y pleidlais a wnaeth yn siwr bod ardal Cwm Hyfryd yn aros yn rhan o'r Ariannin yn lle dod yn rhan o Chile. Seremoni yn Ysgol 18, Trevelin.
Mai – Eisteddfod Trevelin
Mehefin – Eisteddfod Mini-Bethel, Gaiman
Gorffennaf – Eisteddfod Porth Madryn
Gorffennaf 28 – Gwyl y Glaniad - yn marcio'r diwrnod pan glaniodd y Cymry cyntaf ar y traeth ym Mhorth Madryn yn barod i sefydlu'r Wladfa. Dathliadau mewn canolfannau amrywiol.
Medi – Eisteddfod yr Ifanc , Gaiman – rhaid i chi fod o dan 25 oed i gystadlu mewn cystadleuthau yn Sbaeneg ac yn Gymraeg.
Hydref – Eisteddfod del Chubut , Trelew– cyfle i bobl o'r Dyffryn ac o'r Andes cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn cystadleuthau o bob math yn y Sbaeneg ac yn y Gymraeg – o ddawnsio tango i adrodd, o ddawnsio gwerin i ganu gwerin yr Ariannin.
