Y Wladfa heddiw
Os ydych chi'n disgwyl cerdded i mewn i unrhyw siop yn y Wladfa a siarad Cymraeg byddwch chi'n cael eich siomi gan bod yr iaith wedi cilio o fod yn brif iaith masnach ers degawdau ond mae'r cysylltiadau rhwng y fam wlad Cymru a Phatagonia yn gryfach nag y buon nhw am flynyddoedd. Yn 1965 dathlwyd canmlwyddiant glaniad y Mimosa ac ailgynheuwyd fflam cyfeillgarwch rhwng y ddwy genedl. Ym 1997 sefydlwyd cynllun Dysgu Cymraeg yn y Wladfa dan nawdd y Cynulliad yng Ngyhmru i anfon tri thiwtor o Gymru bob blwyddyn i arwain y timau lleol sydd wrth yn dysgu'r iaith Gymraeg yn y gwahanol ardaloedd. Yn sicr nid yr hen bobl sydd yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd yn unig ond hefyd criw newydd o bobl frwdfrydig ac ifanc sydd yn ailgydio yn nhraddodiadau eu cyndeidiau felly peidiwch â chael sioc os ydych chi'n gweld gaucho neu tywysydd twristiaid yn siarad Cymraeg!
Mae niferoedd o enghreifftiau o dreftadaeth y Cymry ym Mhatagonia heddiw o enwau'r llefydd (Trelew, Dolafon, Trevelin) i'r tai te sydd yn paratoi te traddodiadol nas welwyd yng Nghymru ers talwm i'r Eisteddfodau. Hefyd mae prif wyliau'r Cymry yn cael eu dathlu fel Gŵyl Dewi, Gŵyl y Glaniad sydd yn coffáu y diwrnod pan glaniodd y Cymry cyntaf i benblwydd sefydlu'r trefi. Mae corau Cymraeg yn y Dyffryn ac yn yr Andes a grwpiau dawnsio gwerin mor bell i'r de â Comoro Rivadavia. Mae gweithgareddau cymdeithasol wedi datblgyu ar eu newydd wedd o dan arweiniad gweithwyr egnïol sydd yn cael eu hanfon dan nawdd Menter Iaith er mwyn hyrwyddo'r defnydd o'r iaith Gymraeg y tu allan i 'r dosbarth. Maen nhw'n rhedeg clybiau plant, clybiau cyfrifiaduron, grwpiau siarad, dathliadau, swperi, cwis...rhywbeth sydd yn rhoi'r cyfle i'r gymuned Gymraeg dod at ei gilydd!
