Hanes y Wladfa
Y Wladfa. I bobl Cymru rhywle hudol. Enw sydd yn creu delwedd o eangderau maith a rhyddid. Yr unig le y tu allan i Gymru lle mae'n bosib clywed y Gymraeg yn cael ei siarad gan griw niferus o bobl. Y Wladfa.
Mae mwy a mwy o bobl am weld y gornel anhygoel hon o'r byd lle mae pobl sydd yn hanu o'r un wlad ac wedi etifeddu rhai o'r un traddodiadau a ni, lle mae bywyd fel petai heb ei gyffwrdd cymaint gan broblemau yr unfed ganrif ar hugain.
Mor bell yn ol a 1862 roedd son am greu gwladfa ond gwireddwyd y breuddwyd ym 1865 pan hwyliodd y llong Mimosa o borthladd Lerpwl yn cludo'r fintai gyntaf o ymfudwyr. Trwy lafur caled trawsnewidiwyd y rhan hon o Batagonia yn lle y fyddai'n tynnu nifer o deuluoedd o Gymru dros y degawdau nesaf. Cynlluniwyd rhwydwaith o gamlesi i ddyfrio Dyffryn y Camwy neu'r Chubut yn iaith y brodorion, plannwyd cnydau a sefydlwyd pentrefi a systemau masnach a chyn hir roedd y bobl ifanc a'u golwg yn bell i'r Gorllewin i gyfoeth dyffrynoedd gwyrdd, llynnoedd mawr a mynyddoedd uchel.
Ond dydy'r stori ddim yn gorffen yna. Cadwyd y traddodiadau o fewn y teuluoedd Cymreig a hyd heddiw gwelwch y capeli a'r ysgolion a sefydlwyd gan y Cymry, teithiwch ar hyd y ffyrdd wrth ochr y caeau a phlannwyd gan y Cymry a sgwrsiwch gyda rhai o ddisgynyddion y teuluoedd cyntaf a ddaeth draw o Gymru i ddianc rhag caledi bywyd ar ol y Chwyldro Diwyddiannol yng Nghymru. Ac byddwch chi yn cael y cyfle i gwrdd a rhai o'r bobl ifanc sydd wedi eu hymroi i'r gwaith o ddiogelu'r traddodiadau a'r iaith ar gyfer y rhai sydd yn dod yn ol eu traed.
Ond cofiwch bod gan y Wladfa llawer mwy na hanes yn unig i gynnig i chi wrth i chi deithio! Mae'r gwrthgyferbyniad rhwng gwastatir y Paith a'i eangderau a gwyrddni dyffrynnoedd mawreddog yr Andes yn drawiadol ac i'r rhai sydd yn hoff o fyd natur mae gwledd o anifeiliaid, adar a phlanhigion i'w gweld ble bynnag rydych chi'n troi.
Ble yn y byd dych chi'n gallu mynd ar daith a siarad y Gymraeg, iaith y nefoedd, gyda'ch tywsydd, gyda phobol lleol mewn noson gymdeithasol, mewn ysgol neu amgueddfa? Ble yn y byd dych chi'n gallu gweld pobl a gwedd Cymreig sydd yn siarad Cymraeg, mynd i weithgareddau Cymreig ond sydd efallai erioed wedi ymweld a Chymru ei hun?!
Dewch gyda ni i le unigryw, dewch gyda ni ar daith trwy hanes y Cymry a allfudodd, dewch gyda ni i brofi byd sydd yn Ne Amerig yn ddaearyddol ond yn agos iawn yn ein calonnau.
