Amdanom Ni
Mae cwmni gwyliau Teithiau Tango yn seiliedig yn Aberystwyth. Cafodd ei greu gan Aled ac Angeles Rees yn 2008 ar ôl iddynt drefnu taith lwyddiannus i deulu a ffrindiau ar achlysur eu priodas yn yr Ariannin. Yn 2008 buodd Teithiau Tango (o dan yr enw Tango Tours) yn llwyddiannus yn ei chais i ennill trwydded ATOL sy'r orfodol ar gyfer cwmnïoedd teithio yn y Deyrnas Unedig sy am werthu pecynnau teithio. Hyd heddiw mae Teithiau Tango wedi bod ynghlwm a threfnu sawl taith lwyddiannus i'r Wladfa, gan gynnwys taith Rhys Meirion, yn ogystal â theithiau Menter Bro Ogwr a Menter Patagonia. Ar y foment mae'r cwmni yn trefnu teithiau Eisteddfod a Sgïo i'r Wladfa yn 2011 a 2012.
