PAM OEDD POBL EISIAU SYMUD O GYMRU YN Y LLE CYNTAF?

Mae Cymru yn wlad mor brydferth felly pam deithiodd miloedd o longau o borthladdoedd fel Lerpwl yn llawn dop o allfudwyr llawn gobaith oedd yn gadael gyda'r un pwrpas sef dechrau bywyd gwell tramor? Mae'r rhesymau yn gymhleth ond gawn ni grynhoi mewn un prif rheswm: Y Chwyldro Diwydiannol. Roedd yr angen ar gyfer cynhyrchu haearn yn arwain at yr angen i gloddio glo ac roedd y pyllau glo angen gwethlu anferth. Newidiwyd demograffig gwledig Cymru am byth wrth i lowyr o'r Gogledd symud i ddyffrynnoedd De Cymru lle ymunwyd ‚ nhw gan grwpiau o lowyr o Loegr. Daeth y Gymraeg yn ail iaith yn ei gwlad ei hunan a'r Saesneg yn iaith gynnydd. Roedd y tirfeddianwyr - a oedd yn aml yn berchnogion y mwyngloddau a'r pyllau glo a'r ffwrneisi a'r gweithfeydd smeltio - yn siarad Saesneg ac roedd disgwyl y byddai'r tenantiaid hefyd yn siarad Saesneg gyda'u meistri a mynychu'r eglwys nid y capel. Roedd bywyd yn galed, roedd tlodi yn gyffredin ac roedd atyniad bywyd newydd yn yr Amerig yn un grymus.

GADAEL LERPWL

Roedd atyniad dyfodol gwell yn gryfach na baich y presennol ac aeth teuluoedd cyfan i chwilio eu ffortiwn yn yr Amerig lle y byddan nhw'n rhydd i ddilyn eu crefydd eu hunain, siarad eu hiaith eu hunain a ffermio eu tir eu hunain. Llifodd y llythyrau yn ôl i Brydain yn adrodd hanesion am fywyd gwell. Ffurfiwyd cymdeithas Cymraeg mawr ym Mhennsylvania a ffynnodd y gymuned. Er hynny roedd rhai o'r ymfudwyr a aeth allan gyda'r syniad o gadw'r traddodiadau oedd yn cael eu colli yng Nghymru yn gweld eu bod nhw yn cael eu gwanhau o dan ddylanwd grwpiau eraill o ymfudwyr. Beth allai rhywun wneud i sicrhau bod hyn ddim yn digwydd? Camai Michael D. Jones i fewn i'n hanes ni...

MICHAEL D.JONES

Roedd Michael D.Jones ei hunan wedi ymfudo i Ogledd America lle hyfforddodd fel gweinidog ond gwelodd bod y Cymry yn colli eu hunaniaeth yn fuan ac felly dechreuodd breuddwydio am greu 'Gwladva' mewn rhan arall o'r byd lle y byddai'n bosib diogelu'r iaith a'r diwylliant. Ym 1856 dechreuodd grwp yn Califfornid siarad am Batagonia fel lleoliad posibl ar gyfer y gymuned hon. Yn ôl yn y Bala, dechreuodd Michael D. Jones hyrwyddo'r syniad gyda sÍl crefyddol, gydag Edwin Cynrig Roberts, un arall oedd wedi allfudo i'r Amerig ond i ddychwelyd yn siomedig, yn teithio o gwmpas Cymru yn chwilio am eraill i gadw cwmni iddo ar ei daith i'r Ariannin. Ym 1861 ffurfiwyd Cymdeithas Wladychol Lerpwl i drefnu'r fentr ac ym mhlith yr arweinyddion dyn o'r enw Lewis Jones. 

PARATOI'R WLADFA

Ym 1862 aeth Edwin Roberts yng nghmwni dyn oedd yn mynd i fod yn hanfodol i ariannu'r prosiect, y Capten Love Jones-Parry, i Buenos Aires i siarad telerau gyda Llywodraeth yr Ariannin ac i Batagonia i weld y tir oedd ar gynnig i'r Cymry. Dychwelon nhw i Gymru gyda straeon ffafriol iawn a oedd, fel profodd yr ymfudwyr cyntaf, yn rhy ffafriol o lawer! Ym mis Mawrth 1863 arwyddwyd y cyntunedeb rhwng yr Ariannin a'r Cymry oedd yn cynnig 100 acer i bob teulu a gyrhaeddodd Patagonia. Aethpwyd ati i gasglu anifeiliad, bwyd a nwyddau ar gyfer y fintai gyntaf a fyddai'n cyrraedd Patagonia er mwyn sefydlu cymuned - y mwyaf deheuol gan Ewropiaid yn yr Ariannin yn y cyfnod.

Patagonia Unigryw

Gallwn eich sicrhau, gyda ein cymorth fel cwmni cewch brofi y gorau sydd gan y Wladfa i’w gynnig – golygfeydd syfrdanol, bywyd gwyllt anhygoel ac ymweld a’r lleoliadau hanesyddol mwyaf allweddol.

Ein Teithiau

Ymholiadau

Taith Grŵp Ciwba Clasurol

cuba-galleryJardines-del-Rey-beach-cuba.jpg

Estyniadau i America Ladin

christ-the-redeemer.jpg

Beth mae'n cwsmeriaid yn ei ddweud!

 

 


Cofrestrwch i dderbyn newyddion am ein teithiau i America Ladin

* indicates required

ATOL.png

Cysylltwch a ni

Teithiau Tango, Heol Alexandra, Aberystwyth, SY23 1LN

Rhif Fon: 01970 631737

Tango Tours (Ltd) Copyright © 2016